O pwy (All chwilio dyfais dwyfol glwy')?
Pwy pwy (All chwilio dyfais dwyfol glwy')?

(Ardderchrawgrwydd Crist, a gwagedd y byd.)
1,2,3,(4),5.
      O pwy,
All chwilio dyfais dwyfol glwy',
Sy'n anchwiliadwy hollol trwy
  Bob rhan o hono oll i gyd?
    Dyfnderau mawrei gariad ef,
  Ddadseinia'r nef,
          pan ddarffo'r byd.

      Ei waed,
Oedd pwrcas drud
        yr hyfryd wlad,
Bart'odd ef i'm yn eithaf rhâd;
  Er gariad annherfynol maith,
    A'm nertha'i bellach
            fyn'd y'mlaen,
  Salem lân sy ar ben fy nhaith.

      Frŷ, frŷ,
Uwch awyr las a'i disglaer lu,
Mae holl hyfrydwch f'enaid cu;
  'Does dim daioni yma i'w gael,
    'Rwy' wedi gwel'd a phrofi'r byd,
  'Does ynddo i gyd
          ond gwagedd gwael.

      Gwael, gwael,
Yw'r parch a'r elw
        s'yma i'w cael,
A'r holl bleserau gweigion sâl,
  Pethau na thâl byth eu mwynâu;
    O am y nefol drysor drud,
  A'r bara y hyd, sydd i barâu.

      Parhau
Mae cariad Duw i'w anwyl rai,
Hwy gânt yn wastad ei fwynhau,
  Heb achwyn trai yr ochr draw;
    O na bawn gyd âg ef yn byw,
  Fy mhriod yw, pa bryd y daw?

              - - - - -

      Pwy, pwy
All chwilio dyfais dwyfol glwy',
Sy'n hollol anchwiliadwy trwy
  Bob rhan o honi oll i gyd?
    Dyfnderau mawr ei gariad ef
  Adseinia'r nef pan
          ddarfo'r byd.

      Trwy ffydd
Yn ngwaed yr Oen y'n gwnaed yn rhydd
O'n carchar a'n caethiwed prudd;
  Ond ein Meichniydd - dyoddefodd E
    I ateb holl ofynion Duw,
  O rhyfedd yw! -
        aeth yn ein lle.

              - - - - -

      O pwy,
All chwilio dyfais dwyfol glwy',
Sy'n Anchwiliadwy hollol trwy,
  Bob darn o hono oll i gyd;
    Dyfnderau mawr ei gariad ef,
  Ddadseinia'r nef, pan
          ddarffo'r byd.

      'Does dim,
O tan y nefoedd fawr o rym,
A'm deil i'r lan tan gystudd llym,
  Ond cariad pur fy Arglwydd cu;
    A hwn a'm nertha i fyn'd yn mlaen,
  Trwy ddwr a thân, i'r nefoedd fry.

      Mwy mwy,
Yw buddugoliaeth dwyfol glwy,
A'i goncwest helaeth
        gyrhaedd trwy,
  Galonau mwy na rhif y gwlith;
    Yn nydd ei nerth
            y gwanaf un,
  Wrtho a lŷn yn ffyddlon byth.
William Williams 1717-91

Tôn [288.888]: Trawsfynydd (<1829)

gwelir:
  Golch ni (Oddiwrth ein beiau aml ri')
  Mae mae (Ein Harglwydd hael yn trugarâu)
  Mae mae (Yr amser hyfryd yn nesáu)
  Nid oes (A ddeil fy Ysbryd dan bob croes)

(The excellence of Christ, and the emptiness of the world.)
 
      O who,
Can serch the scheme of a divine wound,
Which is unsearchable wholly through
  Every part of it altogether?
    The great depths of his love,
  Shall reverberate heaven,
          when the world vanishes.

      His blood,
Was the costly purchase
        of the delightful land,
Which he prepared for me utterly free;
  For the sake of love infinitely vast,
    Which strengthens me henceforth
            to go forwards,
    Holy Salem is at my journey's end.

      Up, up,
Above blue sky and its shining host,
Is all the delight of my dear soul;
  There is no goodness to be got here,
    I have seen and experienced the world,
  There is nothing in it all
          but base vanity.

      Poor, poor,
Is the respect and the profit
        that is here to be got,
And all the empty, paltry pleasures,
  Things that it never pays to enjoy;
    O for the precious, heavenly treasure,
  And the bread always, which is enduring.

      Enduring
Is the love of God to his beloved ones,
They shall get continuously to enjoy him,
  Without tidal grumbling on the far side;
    O that I would live with him,
  My own he is, when will he come?

               - - - - -

      Who, who
Can search the scheme of a divine wound,
Which is wholly unsearchable through
  Every part of it altogether?
    The great depths of his love
  Shall reverberate heaven when
          the world vanishes.

      Through faith
In the blood of the Lamb making us free
From our prison and our sad captivity;
  But our Surety - he suffered
    To answer all the demands of God,
  O wonderful he is! -
        he went in our place.

                 - - - - -

      O who,
Can search the scheme of a divine wound,
Which is wholly unsearchable through,
  Every part of it altogether;
    The great depths of his love,
  Shall reverberate heaven, when
            the world vanishes.

      There is nothing,
Under heaven of great force,
That can hold me up under sharp affliction,
  But the pure love of my dear Lord;
    A he shall strengthen me to go onwards,
  Through water and fire, to heaven above.

      Greater greater,
Is the victory of a divine wound,
That with its vast conquest
        reaches through,
  Hearts more numerous than the dew;
    In the day of his strength
            the weakest one,
  To him shall stick faithfully forever.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~